Genesis 10

Rhestr o'r cenhedloedd gwahanol

(1 Cronicl 1:5-23)

1Dyma hanes teuluoedd meibion Noa – Shem, Cham a Jaffeth. (Ar ôl y dilyw cafodd y tri ohonyn nhw blant):

Disgynyddion Jaffeth

2Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Iafan, Twbal, Meshech, a Tiras.
3Disgynyddion Gomer oedd pobl Ashcenas, Riffath, a Togarma.
4Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Dodanîm, 5sef pobloedd yr arfordir a'r ynysoedd. Rhannodd y rhain yn genhedloedd gwahanol gyda'u tiroedd, a phob grŵp ethnig gyda'i iaith ei hun.

Disgynyddion Cham

6Meibion Cham: Cwsh, Mitsraïm, Pwt, a Canaan.
7Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha. Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan.
8Cafodd Cwsh fab arall o'r enw Nimrod. Nimrod oedd y concwerwr cyntaf. 9Fe oedd yr heliwr gorau yn y byd i gyd. Dyna pam mae'r hen ddywediad yn dweud, “Mae fel Nimrod, yr heliwr gorau welodd yr Arglwydd.” 10Dechreuodd ei ymerodraeth gyda dinasoedd Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Babilonia.
10:10 Hebraeg,  Shinar sy'n hen enw am wlad Babilon.
11Wedyn lledodd ei ymerodraeth i Asyria, ac adeiladodd ddinasoedd Ninefe, Rehoboth-ir, Cala, 12a Resen (sydd rhwng Ninefe a dinas fawr Cala.)
13Disgynyddion Mitsraïm oedd y Lydiaid, Anamiaid, Lehabiaid (pobl Libia), Nafftwiaid, 14Pathrwsiaid, Caslwchiaid (y daeth y Philistiaid ohonyn nhw), a'r Cafftoriaid.
15Disgynyddion Canaan oedd pobl Sidon (o'i fab hynaf), yr Hethiaid, 16y Jebwsiaid, Amoriaid, Girgasiaid, 17Hefiaid, Arciaid, Siniaid, 18Arfadiaid, Semariaid, a phobl Chamath. Cafodd llwythau'r Canaaneaid eu gwasgaru 19nes bod eu ffiniau nhw yn estyn o Sidon yr holl ffordd i Gerar ac i fyny i Gasa, ac wedyn yr holl ffordd i Sodom, Gomorra, Adma, a Seboïm, mor bell â Lesha.

20Felly dyna ddisgynyddion Cham yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd.

Disgynyddion Shem

21Cafodd Shem, brawd hynaf Jaffeth, feibion hefyd. Shem oedd tad disgynyddion Eber i gyd.
22Meibion Shem: Elam, Ashŵr, Arffacsad, Lwd, ac Aram.
23Disgynyddion Aram oedd pobl Us, Chwl, Gether, a Mash.
24Arffacsad oedd tad Shelach, a Shelach oedd tad Eber. 25Roedd gan Eber ddau fab – cafodd un ei alw'n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu.
10:25 Hebraeg,  palag
Yna enw ei frawd oedd Ioctan.
26Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach, 27Hadoram, Wsal, Dicla, 28Obal, Abima-el, Sheba, 29Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan. 30Roedden nhw'n byw ar y tir rhwng Mesha a bryniau Seffar yn y dwyrain.

31Felly dyna ddisgynyddion Shem, yn ôl eu llwythau, ieithoedd, tiroedd a chenhedloedd.

32Dyna'r llwythau ddaeth o feibion Noa, wedi eu rhestru yn eu cenhedloedd yn ôl eu hachau. Ar ôl y dilyw dyma nhw'n rhannu i wneud gwahanol genhedloedd yn y byd.

Copyright information for CYM